Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 16 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:16 - 13:16 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dr Ruth Hussey, Chief Medical Officer |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar.
2 Sesiwn ddilynol i'r sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Deintyddol (Rhagfyr 2013)
2.1 Ailedrychodd y Pwyllgor ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref a chytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.
3 Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - ystyried y prif faterion
3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol a godwyd yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a chytuno arnynt.
4 Trafodaeth gychwynnol ar gynllun strategol y Pwyllgor ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad
4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth gychwynnol ar ei gynllun strategol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymchwilio i'r meysydd canlynol i'w hystyried ymhellach:
· Gwasanaethau orthodontig
· Cynllun cyflawni ar gyfer canser
· Gofal iechyd mewn carchardai
· Talu am ofal
· Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru)
· Cynllun cyflenwi ar gyfer clefyd yr afu
· Gofal y galon
· Clefyd / llid Crohn
4.3 Ymrwymodd y Pwyllgor i ddychwelyd i ymholiadau blaenorol i wneud gwaith craffu dilynol, gan flaenoriaethu'r pynciau canlynol yn y lle cyntaf:
· Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013-14
· Fferylliaeth gymunedol
· Marw-enedigaethau
· Gwasanaethau cadeiriau olwyn
4.4 Cytunodd y Pwyllgor i barhau i gynnal sesiynau craffu cyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddogion Iechyd Proffesiynol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
4.5 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw hyblygrwydd o fewn y flaenraglen waith er mwyn ystyried deddfwriaeth ac unrhyw fater brys neu bwysig a allai godi yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.
5 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - sesiwn friffio ragarweiniol gan yr ymgynghorydd arbenigol
5.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad rhagarweiniol gan Dr Alex Faulkner, sydd wedi ei benodi yn ymgynghorydd arbenigol i'r Pwyllgor at ddibenion yr ymchwiliad i fynediad i dechnolegau meddygol yng Nghymru.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Theuluoedd - Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
6.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.
6.2 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai'n ceisio adolygu'r dystiolaeth yn ymwneud â'r effaith y gallai pecynnau plaen ei chael ar ddewis ysmygwyr o sigaréts tar isel. Cytunodd i ymateb i'r cwestiwn hwn mewn pryd ar gyfer y ddadl Cyfarfod Llawn, sydd i'w chynnal ar 21 Ionawr, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol perthnasol.
6.3. Gofynnodd y Pwyllgor fod y llythyr yr ysgrifennodd y Gweinidog at Weinidog y DU dros iechyd cyhoeddus ynghylch rheoleiddio pecynnau manwerthu cynhyrchion tybaco gael ei rannu cyn y ddadl Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf, os nad yw eisoes yn ddogfen gyhoeddus. Dywedodd y Gweinidog y gall fod cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyfathrebu rhwng y Gweinidogion ond byddai'n ystyried beth ellid ei wneud.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 a 11 Rhagfyr 2013.
7.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi’i gyfeirio at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, mewn perthynas â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
7a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb yn ymwneud â chanslo llawdriniaeth orthopedig yn ystod misoedd y gaeaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
7b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â’r adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG
7c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru
7d.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.